DofE Logo

Y D.C. yn Wrecsam
QWrexham Logo


Faint mae’n gostio?

Bydd hyn yn dibynnu ar beth fyddwch yn dewis ei wneud. Os ydych yn penderfynu eich bod eisiau dysgu hedfan neu wneud eich hirdaith yn Awstralia, yna byddwch yn gorfod talu amdano a bydd yn ddrud. Fodd bynnag yr unig beth sy’n rhaid i chi wneud yw cofrestru a chael eich llyfr cofnodion neu God Ysgogi ar gyfer y D of E ar-lein. Mae hyn yn costio dan £13 am Efydd ac Arian a than £18 am yr Aur - mae hwn yn cynnwys Cofrestru a rhywfaint o yswiriant sylfaenol.

O bryd i’w gilydd byddwn yn cynnal cyrsiau agored trwy ein Canolfannau. Gall y rhain gynnwys cyrsiau’r Heddlu, Tân a Chymorth Cyntaf, saethyddiaeth, therapi harddu a pharatoi ar gyfer hirdaith. Gallwn roi cyngor ac arweiniad yn ogystal â chysylltiadau i helpu i chi gyflawni eich Gwobr.

Yn Wrecsam mae gennym rywfaint o offer gwersylla y gallwch ei fenthyca am ddim ond iddo gael ei ddychwelyd yn lân a heb ddifrod.