Y D.C. yn Wrecsam |
![]() |
|
Ar gyfer arweinwyr a gwirfoddolwyr Rydym bob amser yn chwilio am gynorthwywyr aeddfed. Os ydych yn teimlo bod gennych sgiliau arbennig y byddech yn barod i’w rhannu gyda phobl ifanc, yna cofiwch gysylltu. Bydd angen i chi gael gwiriad CRB (Swyddfa Cofnodion Troseddol) y gallwn ei drefnu i chi. Cewch wahoddiad i fynychu cyfarfodydd y Panel Cynghori sy’n cael eu cynnal bob 3 mis. Byddwch hefyd yn cael cyfle i gymryd rhan yn unrhyw hyfforddiant sydd ar gael - fel arfer byddai hyn yn golygu hyfforddiant Cymorth Cyntaf, hyfforddiant Iechyd a Diogelwch, Achredu Aseswyr ac efallai BEL, WGLA neu ML (i gyd yn gymwysterau hirdaith) os oes modd cael cyllid ar gyfer hyn. Os ydych eisoes yn ymwneud ag ysgol neu grwp ieuenctid ac eisiau gweithredu’r Wobr gyda’ch pobl ifanc yna cysylltwch â Rose Hislop, Swyddog Datblygu’r Wobr, ar rose@hislop.co.uk. Bydd Rose yn trefnu i’ch cyfarfod a bydd yn egluro beth sydd dan sylw. Bydd y dolenni isod yn helpu arweinwyr / gwirfoddolwyr presennol gyda’u gwaith papur.
|
||