DofE Logo

Y D.C. yn Wrecsam
QWrexham Logo


Pam ddylwn i drafferthu?

Gwobr Dug Caeredin yw gwobr gyrhaeddiad flaenllaw’r byd. Mae’n cael ei derbyn mewn dros 100 o wledydd ledled y byd a bu’n gweithredu ers dros 50 mlynedd. Dangosodd arolwg diweddar ym Mhrydain mai dyma’r gweithgaredd allgyrsiol neu wobr sy’n cael ei werthfawrogi fwyaf gan y prif gyflogwyr i gyd.

Cewch gyfle i ddysgu sgiliau newydd neu gallwch ddefnyddio’r Wobr i achredu gweithgareddau a wnewch eisoes. Byddwch yn gwneud cyfeillion newydd ac yn gweithio fel aelod o dîm. Bydd gennych rywbeth gwirioneddol ystyrlon i roi ar eich braslun gyrfa. Byddwch yn dangos i gyflogwyr y dyfodol, ac i chi eich hun, bod gennych ymroddiad, cymhelliad a dyfalbarhad.

Yn ogystal, unwaith y byddwch wedi cyflawni’r wobr gyntaf y byddwch yn cael eich cynnig i Brifysgol Ieuenctid Wrecsam lle bydd ennill y wobr Efydd yn cael Lefel gyntaf y Brifysgol i chi hefyd - rydych yn cael 2 Wobr am yr un gweithgareddau!

why